Er bod yn hir mewn anial fan

(Ernes o'r Wledd dragwyddol)
Er bod yn hir mewn anial fan,
  Yn 'mofyn am orphwysfa,
O'r diwedd des -
    O! ryfedd fraint!
  I'r man mae'r saint yn gwledda.

Nid rhyfedd yw bod seintiau gwiw
  Yn moli Duw a'i ganmol;
Afonydd hael o'i nefol hedd
  Sydd im' yn wledd wastadol.

Caf fwyta ffrwythau
    prenau plàn
  Ar hyd glan afon bywyd,
Tragwyddol sabbath gyda'r Oen,
  Heb friw, na phoen, na gofid.
William Williams 1717-91

Tôn [MS 8787]: Gorffwysfa (Rees Williams 1846-1934)

gwelir:
  Gwyn fyd y rhai dilëaist eu bai
  O Fugail Israel dwg fi 'mlaen
  Yn mynwes glyd yr anwyl Oen

(The Ernest of the eternal Feast)
Despite being long in a desert place,
  Asking for rest,
In the end I shall come -
    O wonderful privilege!
  To the place the saints are feasting.

It is no wonder that the worthy saints
  Are praising God and extolling him;
Generous rivers of his heavenly peace
  Are a feast to me constantly.

I will get to eat the fruits
    of the trees planted
  Along the banks of the river of life,
An eternal sabbath with the Lamb,
  Without bruise, or pain, or grief.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~